Cwynodd Mrs X am y driniaeth a gafodd ar gyfer heintiau parhaus rhwyll Prolene (haen wediâi wehydduân llac a ddefnyddir naill ai fel cymorth parhaol neu dros dro ar gyfer meinwe yn ystod llawdriniaeth) ym mur ei bol. Cafodd y rhwyll ei gosod am y tro cyntaf flynyddoedd yn Ă´l, ac roedd wedi cael sawl triniaeth lawfeddygol i dynnu darnau oâr rhwyll, ond roedd cwyn Mrs X yn canolbwyntio ar ei gofal clinigol rhwng 2018-2019 ac oedi cyn cael triniaeth yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd ei heintiau parhaus yn golygu bod clwyf Mrs X, ar Ă´l iddo gael ei dorri aâi ddraenio o hylif, wedi cael ei adael ar agor ac, meddai, yn aml yn diferu iâw dillad, a achosodd ofid mawr iddi.
Canfuâr ymchwiliad fod gofal clinigol Mrs X, ar y cyfan, o safon resymol. Mae rhwyll Prolene yn aml yn cael ei thynnu mewn darnau, pan fo angen, gan ei bod yn cysylltu â meinwe yn yr interim, felly maeân amhosibl ei thynnuân gyfan gwbl. Pan fydd haint yn digwydd, maeân aml yn anodd ei ddatrys yn llwyr ac felly maeân troiân gronig, fel yn achos Mrs X. Er y gellir cydnabod gofid Mrs X, mae gadael y clwyf yn agored i wella yn arfer da a syân cael ei derbyn. Roedd y Cynghorydd a benodwyd gan yr Ombwdsmon i adolygu achos Mrs X yn feirniadol o un ymgais i gauâr clwyf ar Ă´l draenioâr hylif yn 2018, gan ei ddisgrifio fel un âannoethâ. Oherwydd y problemau parhaus a oedd gan Mrs X erbyn hynny, roedd hiân debygol y byddai hi wedi parhau iâw dioddef felly nid oedd cadarnhad dros yr agwedd hon ar y gĹľyn. Canfuâr ymchwiliad y bu oedi o 8 wythnos cyn i Mrs X gael triniaeth arall ddiwedd 2018, er bod ei hatgyfeirioân fater brys. Achoswyd hyn gan ddiffyg eglurder yn y cyfathrebu rhwng 2 adran ysbyty ac oedi mewn ymateb gan glinigydd mewn ysbyty arall (yn ymwneud â chyflwr arall yr oedd Mrs X yn dioddef ohono). Yng nghyd-destun y driniaeth syân ofynnol ar frys, a bod ei sefyllfaân peri gofid i Mrs X, roedd hyn yn anghyfiawnder iddi. Felly roedd cadarnhad dros yr oedi iâr agwedd hon oâr gofal a gafodd.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd ag argymhellion yr Ombwdsmon i (i) ymddiheuro i Mrs X am yr oedi a ganfuwyd wrth ddilyn gweithdrefn yn 2018 a (ii) adolyguâr rhesymau dros yr oedi hwnnw er mwyn dysgu gwersi a gwella ei brosesau cyfathrebu mewnol, er mwyn sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.