Cwynodd Mrs G am ofal, triniaeth a gweithredoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd aâr Fro (ây Bwrdd Iechydâ) ar Ă´l iâw merch, Mrs D, gael colangiopancreatograffi endosgopig gwrthredol (âERCPâ – archwiliad o’r ddwythell bancreatig aâr ddwythell fustl syân defnyddio tiwb tenau gyda golau a chamera ar y pen). Dywedodd Mrs G ei fod wedi achosi gwaedu mewnol iâw merch, cymhlethdodau iechyd pellach, ac wedi arwain at ei marwolaeth gynamserol 6 wythnos yn ddiweddarach.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon, er bod y driniaeth ERCP a gynhaliwyd gan Radiolegydd wedi achosi i Mrs D ddioddef gwaedu o’r ddueg, syân ddigwyddiad prin iawn, fod hon yn risg yn sgil y driniaeth y gwyddys amdani a rhoddwyd gwybod i Mrs D am y risg hon ymlaen llaw. Ni allaiâr Ombwdsmon ganfod unrhyw dystiolaeth fod y Radiolegydd ar fai.
Yn olaf, daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad, er bod gwaedu oâr ddueg wedi cymhlethu triniaeth ddilynol Mrs D yn dilyn ei diagnosis blaenorol o ganser y pancreas, y cymerwyd camau amserol a phriodol, yn enwedig pan oedd Mrs D yn dioddef emboleddau ysgyfeiniol.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gĹľyn Mrs G.