Roedd Ms A, eiriolwr annibynnol o Llais Cymru, wedi helpu Mrs B i gwyno am y gofal aâr driniaeth a gafodd ei diweddar Ĺľr, Mr B, pan aeth i Ysbyty Tywysoges Cymru yn 2022. Roedd yr ymchwiliad yn ystyried a roddwyd Mr B ar ward briodol ar Ă´l iddo gael ei dderbyn drwyâr Adran Achosion Brys (âyr Adran Achosion Brysâ) ac a ddylai Mr B fod wedi cael ei drosglwyddo i ward syân arbenigo mewn gofal iechyd meddwl ar unrhyw adeg yn ystod ei arhosiad. Roedd hefyd yn ystyried a gafodd Mr B ormod o feddyginiaeth gyda thawelyddion yn ystod ei arhosiad ar y ward gychwynnol y cafodd ei dderbyn iddi (ây Ward Gyntafâ) ac a gafodd urddas Mr B ei gadw yn ystod ei gyfnod ar y Ward Gyntaf.
Canfuâr ymchwiliad na chafodd Mr B ei dderbyn i ward briodol oâr Adran Achosion Brys. Cadarnhawyd y gĹľyn hon. Canfuâr ymchwiliad fod Mr B wedi cael ei drosglwyddoân briodol i ail ward ac, oherwydd ei fod wedi dal COVID-19, yn anffodus roedd yn briodol iddo aros ar y ward hon. Ni chadarnhawyd y gĹľyn hon. Canfuâr ymchwiliad hefyd nad oedd mesurau diogelu priodol ar waith i amddiffyn Mr B pan oedd staff yn rhoi pigiadau mewngyhyrol (âIMâ) ac nad oedd digon o dystiolaeth bod urddas Mr B yn cael ei gynnal ar y Ward Gyntaf. Cafodd y cwynion hyn eu cadarnhau hefyd.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs B am y methiannau a nodwyd, rhannu canfyddiadauâr ymchwiliad â chlinigwyr perthnasol, a darparu tystiolaeth o hyfforddiant i staff perthnasol ar y Ward Gyntaf yng nghyswllt rhoi pigiadau IM, cysylltu â gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol a sicrhau bod mesurau diogelu ar waith i ddiogelu hawliau cleifion. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ddarparu tystiolaeth o bolisi wediâi ddiweddaru yng nghyswllt pigiadau IM syân ystyried lleoliadau Iechyd Meddwl a lleoliadau nad ydynt yn rhai Iechyd Meddwl.