Cwynodd Mr A am y driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Dywedodd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu gwneud diagnosis o anaf afylsiwn (tynnu neu rwygo i ffwrdd) i dendon (meinwe gref syân cysylltu cyhyr ag asgwrn) yn ei drydydd bys ar ei law chwith ar 20 a 23 Ionawr 2019. Dywedodd hefyd nad oedd wedi ei gyfeirio at Gorff Iechyd arall (ây Corff Iechyd Arallâ) i gael mewnbwn llawfeddygol arbenigol ar gyfer ei anaf tendon yn brydlon.
Canfuâr Ombwdsmon fod y diagnosis o dorasgwrn a wnaed gan Ymarferydd Nyrsio Brys ar 20 Ionawr, er ei fod yn anghywir, yn rhesymol o ystyried yr wybodaeth glinigol a oedd ar gael iddi bryd hynny. Fodd bynnag, canfu nad oedd Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol a Meddyg Orthopedig wedi asesu anaf bys Mr A yn ddigonol ar 23 Ionawr. Nododd hefyd y byddai anaf tendon Mr A wedi cael diagnosis yn gynt, maeân debyg, pe baent wedi asesu ei anaf iâw fys yn briodol ar y dyddiad hwnnw. Cadarnhaodd yn rhannol yr agwedd ddiagnostig ar gĹľyn Mr A o ganlyniad. Canfu fod atgyfeiriad y Bwrdd Iechyd iâr Corff Iechyd Arall ar gyfer mewnbwn llawfeddygol arbenigol wedi cael ei ohirioân afresymol. Cadarnhaodd y rhan atgyfeirio hwn o gĹľyn Mr A. Roedd oâr farn bod y methiannau a nodwyd wedi achosi cryn ansicrwydd a gofid i Mr A, o ran taith ei driniaeth aâi ganlyniad clinigol, a oedd yn golygu anghyfiawnder.
Argymhellodd y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr A am y diffygion a nodwyd. Gofynnodd iddo rannu adroddiad ei ymchwiliad gydaâr staff clinigol. Argymhellodd y dylai ystyried pryderon gofal clinigol Mr A mewn modd syân debyg iâr trefniadau gwneud iawn a amlinellir yn y rheoliadau perthnasol ar gyfer delio â chwynion. Gofynnodd iddo hefyd roiâr wybodaeth ddiweddaraf iddo am yr ystyriaeth honno. Argymhellodd y dylai gymryd camau i sicrhau ei fod yn gwneud atgyfeiriadau am fewnbwn arbenigol syân gysylltiedig â thrawma yn brydlon ac yn effeithlon. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roiâr argymhellion hyn ar waith.