Cwynodd Ms D fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (ây Bwrdd Iechydâ) wedi methu â darparu gofal a thriniaeth briodol iâw phartner, Mr B. Yn benodol, cwynodd Ms D fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu triniaeth a chymorth iechyd meddwl priodol i Mr B a bod Mr B wedi profi oedi ac anawsterau wrth gael diagnosis deuol ar gyfer ei salwch meddwl. Yn olaf, cwynodd Ms D fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chyfathrebuân briodol â Ms D a Mr B, a oedd yn achosi gofid a phoen ychwanegol.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cynnal asesiadau priodol ar gyfer Mr B ac wedi cynnig opsiynau triniaeth priodol iddo. Canfuâr ymchwiliad fod cynllun rheoliâr Bwrdd Iechyd yn briodol. Yn unol â hynny, ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r elfen hon o gĹľyn Ms D. Canfuâr ymchwiliad hefyd fod cyfathrebuâr Bwrdd Iechyd â Mr B a Ms D yn digwydd yn aml ac yn briodol. Er bod y Bwrdd Iechyd wedi anfon llythyr a oedd yn nodiân anghywir nad oedd diagnosis wediâi wneud yn dilyn asesiad seiciatrig Mr B, canfuâr ymchwiliad nad oedd hyn yn effeithio ar gynllun gofal na gofal clinigol Mr B. Yn unol â hynny, ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhauâr elfen hon o gĹľyn Ms D.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon nad oedd diagnosis deuol yn ymestyn i gyd-glefydedd penodol Mr B. Fodd bynnag, bu oedi cyn i Mr B gael diagnosis priodol ar gyfer ei broblemau iechyd meddwl gan y Bwrdd Iechyd. Bu oedi cyn i Mr B gael asesiad seiciatrig llawn a oedd yn fethiant yn y gwasanaeth. Arweiniodd hyn at anghyfiawnder i Mr B a Ms D oherwydd bod yr oedi wrth gael diagnosis wedi achosi ansicrwydd a gofid ychwanegol iddynt. Fodd bynnag, canfuâr ymchwiliad nad oedd yr oedi cyn gwneud diagnosis wedi effeithio ar reolaeth glinigol Mr B ac felly cyfyngedig oedd yr anghyfiawnder.
Yn unol â hynny, fe wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau cwyn Ms D yn rhannol. Argymhellodd y dylaiâr Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr B a Ms D am yr oedi yn asesiad seiciatrig Mr B ac y dylaiâr Bwrdd Iechyd gynnal adolygiad i sicrhau bod cleifion y mae angen asesiad Seiciatrig Ymgynghorol arnynt yn cael eu hasesuân brydlon.