Cwynodd Ms X fod clinigwyr yn Adran Achosion Brys (âEDâ) Ysbyty Bronglais wedi methu ag ymchwilioân ddigonol iâw symptomau o boen yn y frest aâr anawsterau cysylltiedig ag anadlu a ddatblygodd yn dilyn triniaeth abladiad cardiaidd (triniaeth a all helpu i gywiro arhythmia, problem gyda rhythm curiad y galon) mewn ysbyty mewn ardal Bwrdd Iechyd arall. Roedd yr ymchwiliad yn ystyried a oedd Ms X wedi cael diagnosis anghywir o costochondritis (llid lle maeâr asennauân ymuno ââr asgwrn yng nghanol y frest syân gallu achosi poen sydyn yn y frest, yn enwedig wrth symud neu anadlu), a oedd clinigwyr wedi methu ag amau emboledd ysgyfeiniol (âPEâ) a gafodd ei ddiagnosio yn y diwedd ar 16 Chwefror pan ddychwelodd Ms X iâr Adran Achosion Brys gyda symptomau oedd yn gwaethygu, ac a oedd oedi gormodol cyn darparu ymateb ffurfiol i gĹľyn Ms X.
Canfuâr Ombwdsmon nad oedd diagnosis o costochondritis y tu hwnt i ffiniau ymarfer clinigol derbyniol ac yn un y byddai corff o glinigwyr yr Adran Achosion Brys wediâi sefydlu ar sail cyflwyniad Ms X. Ar ben hynny, canfu nad oedd y tu hwnt i ffiniau ymarfer clinigol derbyniol na fu amheuaeth o PE gan nad oedd yn ddiagnosis y byddai corff o glinigwyr yr Adran Achosion Brys wedi amau ar sail cyflwyniad Ms X ar 12 Chwefror. Roedd yr amser a gymerwyd i ymateb i gĹľyn Ms X y tu allan iâr amserlenni a nodir yn y rheoliadau/canllawiau (ây canllawiauâ) y dylai cyrff y GIG eu dilyn wrth ymateb i gwynion. Wedi dweud hynny, maeâr canllawiauân caniatĂĄu i ymatebion i gwynion fynd y tu hwnt iâr amserlenni mewn amgylchiadau eithriadol ac roedd effaith pwysau COVID-19 yn berthnasol yn hyn o beth. Ar ben hynny, roedd y Bwrdd Iechyd wedi diweddaru Ms X yn rheolaidd i egluroâr rhesymau dros yr oedi (yn unol â gofynion y canllawiau) ac roedd yn cydnabod y trallod ychwanegol a achoswyd gan yr oedi. Ni chafodd cwynion Ms X eu cadarnhau am y rhesymau hyn.