Cwynodd Ms C am y gofal a gafodd ei merch, H, ac am y modd y cafodd ei chyflwr ei reoli gan Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant aâr Glasoed (âCAMHSâ) Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg â(y Bwrdd Iechyd Cyntafâ), gan gynnwys yr hyn a deimlai Ms C oedd yn oedi afresymol cyn gwneud diagnosis o Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (âBPDâ) ei merch. Cwynodd Ms C hefyd am y diffyg cymorth a gafodd cyn 2018, ac am nad oedd CAMHS wedi ymateb i lythyr ganddi. Cwynodd Ms C hefyd am y gofal ac am y modd y cafodd cyflwr H ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd aâr Fro (âyr Ail Fwrdd Iechydâ) y trosglwyddwyd y gwaith o reoli CAMHS iddo ar 1 Ebrill 2019. Dywedodd nad oedd yr Ail Fwrdd Iechyd yn cydnabod y gallai BPD effeithio ar blant ac nad oedd yn helpu plant mewn trallod difrifol. Cwynodd Ms C hefyd am y diffyg cymorth a gafodd.
Canfuâr Ombwdsmon nad yw diagnosis o BPD yn cael ei wneud yn aml mewn unigolion o dan 18 oed. Ni chanfu oedi diangen cyn gwneud diagnosis o BPD yn achos H, a chanfu fod gofal a rheolaeth y Bwrdd Iechyd Cyntaf yn cyrraedd safon briodol. Fodd bynnag, canfu fethiannau o ran cynllunio gofal a oedd wedi cael effaith andwyol ar Ms C aâi merch, ac iâr graddau hynny cadarnhaodd y gĹľyn. Canfu er bod aelodau staff CAMHS wedi gwneud ymdrechion sylweddol i helpu Ms C, nid oedd y Bwrdd Iechyd Cyntaf wedi penodi Cydlynydd Gofal fel pwynt cyswllt a fyddai wedi gallu rhoi trosolwg iddi o ofal H. Canfu hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd Cyntaf wedi hysbysuâr Ail Fwrdd Iechyd oâr cymorth yr oedd Ms C wedi bod yn ei gael gan ymarferydd nad oedd yn symud iâr Ail Fwrdd Iechyd. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gĹľyn am y cymorth a ddarparwyd i Ms C, a dyfarnodd hefyd y dylaiâr Bwrdd Iechyd Cyntaf fod wedi ymateb iâr llythyr a anfonwyd ganddi.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gĹľyn Ms C am y ffordd roedd yr Ail Fwrdd Iechyd wedi gofalu am H ac wedi rheoli ei hachos ar Ă´l Ebrill 2019. Canfu fod CAMHS, ar Ă´l Ebrill 2019, wedi cydnabod BPD yn achos H aâi fod wedi darparu triniaeth briodol. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gĹľyn am y cymorth a roddwyd i Ms C gan yr Ail Fwrdd Iechyd.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd Cyntaf yn ymddiheuro i Ms C. Argymhellodd hefyd fod CAMHS y Bwrdd Iechyd Cyntaf yn adolygu ei brosesau cynllunio gofal i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 aâi God Ymarfer. Cynigiodd y Bwrdd Iechyd Cyntaf dalu ÂŁ250 i Ms C gydnabod ei fethiannau o ran delio ââr cwynion ac am y trallod ychwanegol a achoswyd.