Cwynodd Ms B am y gofal aâr driniaeth a gafodd ei phartner, Mr C, tuag at ei glwyf gan DĂŽm Nyrsio Ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (ây Bwrdd Iechydâ) rhwng 21 Medi a 4 Tachwedd 2019.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod y TĂŽm Nyrsio Ardal, ar Ă´l i Mr C gael ei ryddhau oâr ysbyty am y tro cyntaf, wedi cynnal asesiad priodol ac wedi cyflawniâr drefn gofal clwyfau yn briodol. Newidiodd y TĂŽm Nyrsys Ardal y drefn i drefn wahanol a oedd yn briodol ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Canfuâr Ombwdsmon na chafodd Mr C ei weld gan y TĂŽm Nyrsio Ardal rhwng 1 a 4 Tachwedd. Fodd bynnag, o ystyried cyflwr Mr C aâr pryderon am ei glwyf, dylai fod wedi cael ei weld yn ddyddiol. Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon hefyd fod diffygion o ran cadw cofnodion gan y TĂŽm Nyrsys Ardal. Canfu y gallaiâr diffyg cynllun gofal wedi ei ddogfennuân glir, aâr ddibyniaeth ar Ms B i ddiweddaru nyrsys unigol, fod wedi arwain at anghysondeb yn y modd y rheolwyd clwyfau Mr C. Achosodd y diffygion hyn o ran cadw cofnodion clinigol a gofal ansicrwydd i Ms B a Mr C, a oedd yn anghyfiawnder. Yn unol â hynny, cadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen hon o gĹľyn Ms B. Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod oedi wedi bod yn ymateb y Bwrdd Iechyd i gwynion aâi fod wedi colli cyfle i ddysgu gwersi o ofal Mr C, a oedd yn anghyfiawnder. Yn unol â hynny, cadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen hon o gĹľyn Ms B.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms B a Mr C, a chynnig taliad o ÂŁ500 mewn perthynas ââr anghyfiawnderau a nodwyd. Cytunodd hefyd i rannuâr adroddiad gydaâr TĂŽm Pryderon aâr TĂŽm Nyrsio Ardal er ystyriaeth. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gynnal ei adolygiad arfaethedig oâi dempledi ymateb i gwynion ac adrodd yn Ă´l ar ei ganfyddiadau iâr Ombwdsmon. Yn olaf, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gynnal adolygiad i ystyried a ddylai ddatblygu protocol ar gyfer rheoli clwyfau heintus cronig mewn lleoliadau cymunedol.