Cwynodd Mr X am y gofal aâr driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd aâr Fro (ây Bwrdd Iechydâ), nad oedd wedi darparu ymateb priodol iâw bryderon ac roedd yn teimlo nad oedd neb wedi gwrando arno.
Canfuâr Ombwdsmon fod pryderon Mr X am ei ofal aâi driniaeth wedi pasioâr terfyn amser i raddau helaeth. Fodd bynnag, o ran â delio â chwynion, canfuâr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi oedi am fwy na 12 mis cyn trefnu cyfarfod y cytunwyd arno i drafod pryderon Mr X. Nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu unrhyw ddiweddariadau i Mr X ac roedd y wybodaeth am delerauâr cyfarfod yn anghyson. Roedd oedi a diffyg diweddariadau hefyd o ran cwblhau adolygiad llenyddiaeth y cytunwyd arno. Dywedodd yr Ombwdsmon fod y ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi delio ââr gĹľyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth ddiangen i Mr X.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr X, talu iawndal o ÂŁ250 iddo, darparu canlyniad yr adolygiad llenyddiaeth a threfnuâr cyfarfod y cytunwyd arno o fewn 1 mis.