Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd : Canolfan Ddeintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – PSOW Cymraeg

Report Date

04/11/2022

Subject

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Case Reference Number

202204027

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs T am fod y Practis Deintyddol wedi ysgrifennu ati i’w hysbysu ei bod wedi ei thynnu oddi ar ei restr cleifion am ei bod wedi bod yn anghwrtais ac ymosodol. Hefyd cwynodd Mrs T er iddi ysgrifennu at y Practis i ofyn iddo ailystyried y penderfyniad, nid oedd wedi cael ymateb.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am nad oedd Mrs T wedi cael ymateb i’r pryderon a godwyd ganddi ac felly cysylltodd â’r Practis. Eglurodd y Practis fod ganddo’n awr Reolwr Practis newydd yn y Practis Deintyddol ac nad oedd hi wedi dechrau yn ei swydd pan dynnwyd Mrs T oddi ar y rhestr cleifion. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Practis i ymateb yn ysgrifenedig i gŵyn Mrs T a chynnig opsiynau iddi ynglŷn â pharhau i gael gofal deintyddol, o fewn 30 diwrnod gwaith.