Cwynodd Mrs A am Ddeintydd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (ây Deintyddâ). Dywedodd fod gwybodaeth anghywir a ddarparwyd yn ystod apwyntiad ym mis Mehefin 2019 wedi peri iddi gredu bod cais ei merch am driniaeth orthodonteg y GIG wedi cael ei wrthod am nad oedd yn bodloniâr Mynegai Angen Triniaeth. Dywedodd Mrs A, ar sail y wybodaeth hon, ei bod wedi penderfynu ceisio triniaeth breifat. Dywedodd Mrs A fod y GIG wedi dweud wrthi ym mis Medi 2021 bod y cais wedi cael ei wrthod oherwydd methiant y Deintydd i ddarparuâr gwaith papur cywir er mwyn prosesuâr cais.
Canfuâr Ombwdsmon nad oedd tystiolaeth i gefnogi bod Mrs A ar unrhyw adeg wedi cael gwybod maiâr rheswm dros wrthod y cais oedd oherwydd camgymeriad gweinyddol ar ran y Deintydd. Canfu hefyd nad oedd yr ymateb iâr gĹľyn a gyflwynwyd i Mrs A gan y Deintydd yn cyfeirio at apwyntiad Mehefin 2019 o gwbl. Yn ogystal â hyn, canfu fod y wybodaeth yng nghofnodion merch Mrs A yn anghywir. Daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad bod tystiolaeth o gamweinyddu a chadw cofnodion gwael ar ran y Deintydd, a bod penderfyniad Mrs A i geisio triniaeth breifat ar gyfer ei merch wediâi wneud ar sail gwybodaeth anghywir a roddwyd iddi ym mis Mehefin 2019.
Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Deintydd i ymddiheuro i Mrs A aâi had-dalu am y costau triniaeth breifat (ÂŁ1800) a gafwyd mewn perthynas â thriniaeth orthodontig ei merch.