Cwynodd Mr A am y gofal a dderbyniodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (ây Bwrdd Iechydâ). Fe ystyriodd yr ymchwiliad yn benodol a fu methiant i adnabod a gwneud diagnosis o ganser y colon Mr A drwyâr rhaglen monitroâr coluddion, ac a arweiniodd y methiant hwn at driniaeth y buân rhaid iddo ei derbyn wedi hynny, aâr driniaeth honnoân fwy ymyrrol, a olygodd y buân rhaid iddo gael echdoriad anteriol oâr coluddyn a chael bag colostomi parhaol.
Canfuâr ymchwiliad bod y rhaglen arferol o fonitroâr coluddion a oedd yn cynnwys ymchwiliadau radiolegol, apwyntiadau ddwywaith y flwyddyn iâr clinig a monitro CEA (protein syân cael ei gynhyrchu gan rai mathau o ganserau) yn briodol. Fodd bynnag, collwyd cyfleoedd i gynnal ymchwiliadau pellach a allai fod wedi arwain at ddiagnosis cynharach. Ni allaiâr ymchwiliad ddweud gyda sicrwydd a fyddai opsiynau triniaeth llai ymyrrol wedi bod ar gael i Mr A pe byddai wedi derbyn diagnosis cynharach, fodd bynnag, roedd yr ansicrwydd ei hun yn cynrychioli anghyfiawnder i Mr A. Cadarnhawyd cwyn Mr A.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr A a thalu taliad gwneud iawn o ÂŁ750 iddo er mwyn adlewyrchuâr ansicrwydd ynglšn ag a allai ei opsiynau triniaeth fod wedi bod yn llai ymyrrol. Yn ogystal, cytunodd i ddarparu tystiolaeth bod ei Raglen Monitro Coluddion yn cynnwys yr angen am atgyfeiriad i DĂŽm Amlddisgyblaeth y Colon aâr Rhefr i gael cyngor arbenigol, os oedd canfyddiadau radiolegol annormal wediâu hategu gan lefel CEA ac y dylaiâr TĂŽm Amlddisgyblaethol ystyried a yw sgan PET wediâi nodiân glinigol.