Cwynodd Mrs A am yr oedi a fu yng nghyswllt ei merch, Miss B, syân oedolyn, cyn cael ei hapwyntiad cyntaf ââr Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (âIASâ) yn 2018 yn dilyn diagnosis o awtistiaeth. Cyfeiriodd hefyd at y ffaith fod ei merch wedi cael mwy nag un apwyntiad asesu cychwynnol ââr Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn ogystal â lefel ac ansawdd y cymorth a ddarparwyd yn ystod yr asesiadau cychwynnol hynny. Ar ben hynny, roedd Mrs A yn anfodlon â chadernid ymatebion y Bwrdd Iechyd i’r gĹľyn.
Daeth ymchwiliad yr Ombwdsmon iâr casgliad y gallai cyfathrebu o fewn yr IAS, fel sefydliad, fod wedi bod yn well o ran rhoi gwybod i ddefnyddwyr gwasanaeth aâu teuluoedd am yr oedi yng nghyswllt yr amserlen apwyntiadau. Daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad bod Mrs A aâi merch wedi cael cam gan y byddai’r oedi wedi dwysĂĄu eu pryder am y diagnosis. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y rhan hon o gĹľyn Mrs A.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gĹľyn Mrs A ynghylch nifer yr asesiadau a gynhaliwyd, gan ei fod yn arfer da gwneud hynny er mwyn canfod anghenion. Roedd diffyg manylder yn y dogfennau wedi llesteirio i ba raddau y gellid pwyso a mesur y gefnogaeth a roddwyd ar bob cam. Roedd yr Ombwdsmon yn feirniadol o agweddau ar y cymorth a roddwyd, er bod yr asesiad cychwynnol ar Ă´l y diagnosis yn ymddangos yn fwy priodol naâr sesiynau cymorth ar wahân a ddarparwyd yn ddiweddarach.
Canfuâr Ombwdsmon, er enghraifft, fod oedi sylweddol wedi bod cyn cynnal yr apwyntiad asesu cymorth cychwynnol a thystiolaeth o adegau o gyfathrebu gwael o fewn yr IAS. Canfuâr Ombwdsmon yr achoswyd anghyfiawnder i Miss B, er bod rhywfaint o ansicrwydd ynghylch a oedd yr oediân golygu y collwyd cyfle i fynd iâr afael ag anghenion cymorth Miss B yn gynt. Roedd y methiant i egluro rĂ´l y Gweithiwr Cymorth yn y cyswllt a gafodd Mrs A ââr IAS hefyd wedi ychwanegu at amheuon a phryderon Mrs A ynghylch IAS. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y rhan hon o gĹľyn Mrs A.
Yn olaf, cadarnhaodd yr Ombwdsmon gĹľyn Mrs A ynghylch cadernid ymatebion y Bwrdd Iechyd i’r gĹľyn, ac wrth wneud hynny cyfeiriodd at anghysondebau a gwallau yn ymatebion y Bwrdd Iechyd i’r gĹľyn. Roedd y rhain wedi tanseilio hyder ac ymddiriedaeth Mrs A yn IAS ac wedi achosi anghyfiawnder iddi hefyd.
Roedd argymhellion yr Ombwdsmon yn cynnwys bod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro, gan dalu iawndal ariannol o ÂŁ250 i gydnabod yr amser aâr drafferth a achoswyd oherwydd y methiannau o ran delio â chwynion. Ar ben hynny, gofynnwyd iâr Bwrdd Iechyd ddarparu tystiolaeth o atodiad yn cywiroâr cofnodion clinigol ac yn cadarnhau rĂ´l y Gweithiwr Cymorth yn ogystal ag adolyguâr ffordd yr oedd wedi delio â’r gĹľyn yn yr achos hwn at ddibenion dysgu ehangach.