Cwynodd Mr B am y gofal ââr driniaeth a gafodd ei wraig, Mrs B, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (ây Bwrdd Iechydâ).
Cwyn 1
Cwynodd Mr B fod y llawdriniaeth i dynnu pendics Mrs B wediâi gohirioân ormodol. Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon nad oedd unrhyw oedi gormodol cyn trefnu ymchwiliadau neu driniaeth briodol ar Ă´l i lid y pendics gael ei amau yn Awst 2019, gan gynnwys y llawdriniaeth i dynnu pendics Mrs B. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gĹľyn hon.
Cwyn 2
Cwynodd Mr B fod methiant i ymchwilio i achos anawsterau anadlu Mrs B mewn modd amserol. Canfuâr ymchwiliad y bu methiant i roiâr lefel ddisgwyliedig o ofal i Mrs B ar Ă´l y llawdriniaeth i dynnu ei phendics. Bu methiant i adnabod achos isorweddol ei hanawsterau anadlu ac i ddarparu triniaeth briodol ac amserol. Roedd methiant hefyd i adnabod arwyddion bod ei chyflwr yn gwaethygu ac i gymryd camau priodol. Canfuâr Ombwdsmon, ar bwysau tebygolrwydd, ei bod yn debygol y byddai ataliad calon Mrs B aâi derbyniad hir yn yr Uned Therapi Dwys wediâu hosgoi pe bai wedi cael gofal priodol.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod y digwyddiadau hyn wedi effeithiol yn sylweddol ar lesiant corfforol a meddyliol Mrs B, a oedd yn anghyfiawnder difrifol iawn iddi. Gadawyd Mrs B â phroblemau iechyd a symudedd na fyddai wedi disgwyl gorfod ymdopi â nhw yn ei 50au ac a allai gyfynguân sylweddol ar ansawdd ei bywyd am flynyddoedd i ddod. Roedd Mr B hefyd wedi dioddef anghyfiawnder sylweddol oherwydd y gofid a brofodd yn ystod derbyniad ei wraig ac wedi hynny, wrth addasu iâr angen i ddarparu cefnogaeth gorfforol a seicolegol parhaus iddi. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gĹľyn.
Ymchwiliad estynedig
Yn ystod yr ymchwiliad, cododd pryder bod y Bwrdd Iechyd wedi methu â threfnu gofal a thriniaeth ddilynol briodol i Mrs B mewn ymateb i sgan ym mis Medi 2017. Defnyddiodd yr Ombwdsmon y pĹľer âar ei liwt ei hunâ a gyflwynwyd yn ddiweddar i ymestyn yr ymchwiliad i ymchwilioâr pryder, yr oedd Mr a Mrs B yn gwbl anymwybodol ohono. Canfuâr ymchwiliad, mewn ymateb i ganlyniad y sgan, y dylaiâr Bwrdd Iechyd fod wedi trefnu i dynnu pendics Mrs B ond methodd â gwneud hynny. O ganlyniad, collwyd cyfle i osgoiâr dirywiad yn iechyd Mrs B a ddigwyddodd ar Ă´l iddi ddatblygu llid y pendics yn 2019. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gĹľyn.
Nododd yr Ombwdsmon, pe na bai ei swyddfa wedi cychwyn ymchwiliad âar ei liwt ei hunâ, ni fyddaiâr methiant sylweddol hwn a arweiniodd at anghyfiawnder difrifol i Mr a Mrs B wedi dod iâr amlwg. Dangosodd hyn pam fod angen y pĹľer âar ei liwt ei hunâ, er budd y cyhoedd, ac ar gyfer unigolion a ddaw at yr Ombwdsmon.
Argymhellion yr Ombwdsmon
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylaiâr Bwrdd Iechyd, o fewn 1 mis:
1. Ymddiheuro i Mr a Mrs B am y methiannau aâr anghyfiawnderau cysylltiedig a nodir yn yr adroddiad hwn.
2. Talu ÂŁ10,000 i Mr a Mrs B, i adlewyrchuâr anghyfiawnderau difrifol syân deillio oâr canfyddiad o golonograffeg CT a fethwyd yn 2017 aâr gofal gwael ar Ă´l llawdriniaeth yn 2019.
3. Rhannuâr adroddiad gydaâr Ymgynghorwyr Cyntaf aâr Ail at ddibenion myfyrio a thrafod yn eu harfarniadau blynyddol nesaf.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylaiâr Bwrdd Iechyd hefyd, o fewn 2 fis oâr adroddiad hwn:
1. Darparu tystiolaeth bod yr adroddiad hwn wediâi drafod mewn cyfarfod llywodraethu clinigol llawfeddygol a bod pwyntiau dysgu priodol wediâu rhannu â thimau clinigol perthnasol.