Cwynodd Mr A am reolaeth a gofal ei ddiweddar fam (Ms B) a methiant y meddyg teulu iâw gweld wyneb yn wyneb pan ffoniodd a mynegi pryderon ynghylch colli pwysau a darnau gwyn dros ei deintgig aâi cheg. Roedd hefyd yn anfodlon â chadernid ymateb y Practis Meddyg Teulu iâr gĹľyn.
Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y methiannau clinigol gan y meddygon teulu wedi arwain at oedi cyn i symptomau parhaus Ms B gael eu hadolygu aâu hasesuân briodol mewn ymgynghoriad wyneb yn wyneb. Canfuâr ymchwiliad fod yr oediân golygu nad oedd y Practis Meddyg Teulu wedi gwneud atgyfeiriad brys ag amheuaeth o ganser (âUSCâ) i dĂŽm yr ĂŞn aâr wyneb yn yr Ysbyty. Nid oedd hyn yn cyd-fynd â chanllawiau clinigol. Canfuâr Ombwdsmon ddiffygion hefyd yn y modd yr oedd y Practis Meddyg Teulu yn cadw cofnodion, a oedd yn golygu nad oedd yr atgyfeiriad USC yn darparu darlun clinigol cyflawn o ran y galwadau ffĂ´n yr oedd Ms B wediâu gwneud iâr Practis Meddyg Teulu ynghylch ei symptomau. Gan nad oedd yn bosibl dweud a fyddai atgyfeiriad USC cynharach wedi newid canlyniad Ms B neu ei dewisiadau triniaeth, yr ansicrwydd hwn oedd yr anghyfiawnder i Ms B, Mr A aâr teulu. Nododd yr Ombwdsmon hefyd ddiffygion yn y modd y deliodd y Practis Meddyg Teulu â chwyn Mr A. Dyfarnwyd bod cwyn Mr A wediâi chyfiawnhau.
Croesawodd yr Ombwdsmon y camau a gymerwyd gan y Practis Meddygon Teulu fel rhan oâr broses ddysgu o gĹľyn Mr A i fynd iâr afael ââr methiannau o ran gofal clinigol a chadw cofnodion. Gofynnwyd iâr Practis Meddygon Teulu ymddiheuro i Mr A am y methiannau a dangos tystiolaeth oâr hyn a ddysgwyd o achos Ms B.