Cwynodd Mrs Y am y driniaeth a roddwyd iâw gĹľr, Mr Y, gan Bractis Meddyg Teulu (ây Practisâ) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ây Bwrdd Iechydâ) rhwng Medi 2019 a Mai 2021. Yn benodol, cwynodd Mrs Y am y ffordd y cafodd briwiau agored Mr Y eu rheoli gan y Practis, atgyfeiriadau ar gyfer mewnbwn arbenigol (gan gynnwys Dermatoleg a Chardioleg), adolygiadau o feddyginiaeth iâr modd yr ymdriniwyd â chwynion.
Canfuâr Ombwdsmon bod y ffordd y cafodd briwiau agored Mr Y eu rheoli gan y Practis, yr atgyfeiriad iâr gwasanaeth Dermatoleg, cysylltu ââr Adran Gardioleg, a monitro ac adolygu meddyginiaeth Mr Y, yn briodol yn yr amgylchiadau. Yn unol â hynny, ni chadarnhawyd cwyn Mrs Y.
Fodd bynnag, canfuâr Ombwdsmon nad oedd cynnwys ymatebion y Practis iâw cwynion wedi bod yn ddigonol i fynd iâr afael â phryder Mrs Y ac nad oeddent yn unol ââr Rheoliadau PTR. Roedd methiant y Practis i fynd iâr afael yn ddigonol â phryderon Mrs Y yn cynrychioli anghyfiawnder ac yn unol â hynny, cadarnhawyd yr agwedd hon o gĹľyn Mrs Y.
Argymhellodd yr Ombwdsmon iâr Practis drefnu i ddarparu hyfforddiant ar ddelio â chwynion iâw staff gan y Bwrdd Iechyd.