Cwynodd Mrs B am y gofal aâr driniaeth a gafodd ei diweddar dad, Mr D, gan Bractis Meddygon Teulu (ây Practisâ) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn yr ymchwiliad, ystyriwyd a oedd rhoi presgripsiwn o 2 mg o diazepam i Mr D ym mis Tachwedd 2021 yn briodol, yn enwedig o gofio bod y dos yn groes iâr cyngor yn Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain, bod y feddyginiaeth yn cynyddu’r perygl o dananadlu, ac yng ngoleuniâr driniaeth lobectomi roedd wediâi chael yn ddiweddar (19 Hydref 2021), a oedd wedi arwain at system anadlu wan, ac at ddiffyg anadl. Ynddo, ystyriwyd hefyd a oedd y Practis wedi methu trefnu apwyntiad wyneb yn wyneb lle y gellid bod wedi cynnal archwiliadau priodol ac a oedd y methiant hwn yn golygu bod y Practis wedi colli cyfle i sylwi ar yr arwyddion aâr symptomau o pneumonia a oedd wedi arwain at farwolaeth drist Mr D 2 ddiwrnod ar Ă´l yr ymgynghoriad dros y ffĂ´n.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y gofal aâr driniaeth roedd y Practis wediâu rhoi i Mr D ar 18 Tachwedd 2021 yn is naâr safon glinigol oedd yn dderbyniol, nid oedd wedi peri anghyfiawnder i Mr D o ran cyfrannu at natur ac amseriad ei farwolaeth. Ni chadarnhawyd cwyn Mrs B.