Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu : Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – PSOW Cymraeg

Report Date

21/09/2023

Subject

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Case Reference Number

202200785

Outcome

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs P ar ran ei diweddar Ĺľr, Mr P, ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) ac am Bractis Meddyg Teulu (“y Practis”) yn yr un ardal bwrdd iechyd. Cwynodd Mrs P am y ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â’i chwyn ynghylch y gwasanaeth a ddarparwyd gan y Practis. Hefyd, cwynodd Mrs P am y driniaeth a’r gofal a gafodd Mr P gan y Practis o fis Chwefror 2021 ymlaen. Dywedodd fod y Practis wedi methu darparu ymgynghoriad â meddyg pan ddangosodd ei gĹľr symptomau niwrolegol ar 17 Chwefror. Dywedodd Mrs P fod hyn wedi achosi oedi o 7 wythnos cyn i’w gĹľr gael ei atgyfeirio ar gyfer adolygiad gan arbenigwr a chael diagnosis o ganser terfynol. Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi delio â chwyn Mrs P yn briodol ac ni wnaeth gadarnhau y rhan hon o’r gĹľyn. Yn ogystal, canfu’r Ombwdsmon y dylai Mr P fod wedi cael archwiliad corfforol brys pan oedd ei symptomau wedi ymddangos fel pe baent wedi newid. Fodd bynnag, nid oedd y Practis wedi gwneud hyn ac mae’n debygol bod hyn wedi arwain at oedi cyn canfod bod gan Mr P diwmor ar yr ymennydd. Er gwaethaf yr oedi, ni fyddai prognosis Mr P wedi newid, gan fod y tiwmor eisoes yn fawr ac wedi ymledu’n helaeth. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y rhan hon o’r gĹľyn. Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Mrs P ac yn cynnal adolygiad o’i bolisĂŻau i sicrhau na fyddai achosion o’r fath yn codi eto.