Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu: Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg  – PSOW Cymraeg

Report Date

11/10/2013

Subject

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Case Reference Number

202106284

Outcome

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs C am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei gŵr, Mr C, gan ei Bractis Meddyg Teulu. Cwynodd Mrs C fod y Practis wedi diystyru symptomau Mr C ym mis Chwefror a mis Hydref/Tachwedd 2020 ac nad oedd wedi’i gyfeirio i gael archwiliad. Cwynodd hefyd fod ffordd o siarad yr Ail Feddyg Teulu yn ddidaro ac nad oedd ei ymateb i’r gŵyn yn briodol. Ers i’r ymchwiliad i gŵyn Mrs C ddechrau, mae’r Practis wedi uno ag un arall i ffurfio meddygfa newydd nad yw’n cynnwys unrhyw un o’r cyn Bartneriaid.

Mae’r swyddfa hon felly wedi ymchwilio i’r gŵyn gyda chymorth 2 gynbartner y Practis.

Canfu’r ymchwiliad fod y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i Mr C gan y Practis yn is na’r safonau disgwyliedig. Mae hyn oherwydd na wnaeth y Practis archwilio symptomau Mr C yn llawn ym mis Chwefror a mis Hydref/Tachwedd 2020 ac ni chafodd ei gyfeirio i gael archwiliad. Ar ben hynny, roedd ymateb yr Ail Feddyg Teulu i’r gŵyn yn is na’r safonau disgwyliedig. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon, felly, yr elfennau hyn o’r gŵyn. Fodd bynnag, nid oedd yr ymchwiliad yn teimlo bod ffordd o siarad yr Ail Feddyg Teulu yn amhriodol, felly ni chadarnhawyd yr agwedd hon.

Cytunodd 2 gyn-Bartner y Practis i ymddiheuro i Mr a Mrs C am y methiannau a nodwyd a darparu tystiolaeth eu bod wedi myfyrio ar y gofal a ddarparwyd ac wedi ymgymryd â dulliau dysgu perthnasol.