Cwynodd Ms A am Bractis Meddyg Teulu (ây Practisâ) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ây Bwrdd Iechydâ) a oedd wedi darparu gofal a thriniaeth iâw thad, Mr B, traâr oedd yn breswylydd mewn cartref gofal (ây Cartref Gofalâ). Roedd ei arhosiad yn y Cartref Gofal yn cael ei ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (ây Cyngorâ). Yn benodol, cwynodd Ms A nad oedd:
⢠Y Practis wedi darparu gofal a thriniaeth amserol a phriodol i Mr B rhwng Ionawr a Mai 2019, pan gafodd coes Mr B ei thorri o dan y pen-glin.
⢠Y Cartref Gofal wedi darparu gofal a thriniaeth amserol i Mr B o ran rheoli briwiau pwyso a rheoli clwyfau, nad oedd wedi cyfathrebuân briodol â hi, naâi chynnwys mewn penderfyniadau gan gynnwys gwrthod gadael iddi weld troed Mr B, a methiant i weithredu ar bryderon a fynegwyd gan Ms A.
⢠Y Cyngor wedi adolygu/monitro gofal Mr B traâr oedd yn breswylydd yn y Cartref Gofal.
Canfuâr ymchwiliad fod y gofal a ddarparwyd gan y Practis yn briodol gydag ymchwiliadau priodol wediâu cynnal, bod canlyniadau profion wediâu hadolygu mewn modd amserol aâu bod wedi gweithreduân briodol arnynt, aâi bod yn briodol i beidio atgyfeirio Mr B i ysbyty cyn 13 Mai. O ganlyniad, ni chadarnhawyd y gĹľyn yn erbyn y Practis.
Canfuâr ymchwiliad fod y Cartref Gofal wedi gweithredu mewn modd amserol drwy gael cymorth TĂŽm y Nyrs Ardal (âDNâ) pan sylwyd yn gyntaf ar y clwyf ar sawdl Mr B a gweithredwyd yn brydlon drwy gysylltu ââr Meddyg Teulu pan oedd amheuaeth fod y briw wediâi heintio. Canfuâr ymchwiliad nad oedd Mr B ar y dechrau am iâw wybodaeth gael ei rhannu â Ms A heb ei gydsyniad ac, felly, ni fyddai wedi bod yn briodol i rannu a chynnwys Ms A mewn penderfyniadauân ymwneud ââi iechyd, gofal a thriniaeth. Canfuâr ymchwiliad nad oedd y Cartref Gofal wedi methu â gweithredu ar bryderon a fynegwyd gan Ms A ynglšn â throed Mr B. O ganlyniad ni chafodd yr agweddau hyn ar y gĹľyn eu cadarnhau.
Fodd bynnag, ni chynhaliodd staff y Cartref Gofal asesiad croen prydlon a thrylwyr ar Mr B pan gafodd ei dderbyn yn y lle cyntaf. Iâr raddfa gyfyngedig hon, cafodd yr agwedd hon ar y gĹľyn ei chadarnhau. Fodd bynnag, roedd y Cartref Gofal wedi atgyfeirio Mr B at DĂŽm y Nyrs Ardal y diwrnod canlynol. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y Cartref Gofal wedi cymryd camau cywirol priodol drwy gyflwyno asesiadau croen llawn i bob preswylydd newydd ac asesiadau rheolaidd iâr holl breswylwyr eraill. Nid oedd yn credu y byddai unrhyw gamau cywirol pellach yn cyflawni dim rhagor. Ni allaiâr ymchwiliad ddod i gasgliad o ran rhoi caniatâd i Ms A weld troed Mr B.
Canfuâr ymchwiliad nad oedd modd penderfynu, am nad oedd y Cyngor wedi cadw cofnodion cynhwysfawr, a oedd y Cyngor wedi adolygu/monitro Mr B yn briodol. Roedd yr ansicrwydd a achoswyd gan y methiant hwn yn anghyfiawnder i Ms A a chafodd y gĹľyn ei chadarnhau. Canfuâr ymchwiliad hefyd nad oedd y Cyngor wedi rhoi arweiniad iâr Cartref Gofal ar ba wybodaeth y gellid ei rhannu â Ms A ar Ă´l penderfynu nad oedd gan Mr B alluedd. Achosodd hyn ddryswch a rhwystredigaeth i Ms A. Roedd hyn yn anghyfiawnder i Ms A a chadarnhawyd yr agwedd hon ar y gĹľyn.
Cytunodd y Cyngor i baratoi ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms A, cynnig taliad o ÂŁ500 i Ms A am yr ansicrwydd a achoswyd gan ddiffyg cofnodion ac i gydnabod y dryswch, y rhwystredigaeth aâr trallod a achoswyd gan y methiant i gyfleuân llawn a chlir iâr Cartref Gofal sut a pha wybodaeth y gellid ei rhannu â Ms A. Cytunodd y Cyngor hefyd i rannuâr adroddiad ââr Gweithiwr Cymdeithasol perthnasol er mwyn myfyrio ac i wella perfformiad yn y dyfodol.