Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu : Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – PSOW Cymraeg

Report Date

23/06/2021

Subject

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Case Reference Number

202100661

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am y modd yr oedd Meddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi delio â’i chŵyn. Yn benodol, cwynodd Ms X fod ymateb Meddygfa’r Meddyg Teulu i’r gŵyn wedi cynnwys sylwadau difrïol am Ms X.

Cytunodd Meddygfa’r Meddyg Teulu i ymddiheuro’n llawn i Ms X am yr oedi wrth ddelio â’r gŵyn ac am y gwallau a’r sylwadau. Cytunodd Meddygfa’r Meddyg Teulu i gynnig cyfle i Ms X i fynychu cyfarfod cwynion i drafod unrhyw bryderon oedd ganddi o hyd ynglŷn â’r gŵyn. Yn olaf, cytunodd Meddygfa’r Meddyg Teulu i ddiweddaru eu polisi cwyno i gynnwys swyddog cyfrifol i ddelio â chwynion, ac i enwi yn ei bolisi cwyno, aelod arall o staff (ar lefel uwch briodol) i ddelio ag unrhyw gwynion a gyfeirir at y swyddog cyfrifol.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hwn yn setliad priodol.