Cwynodd Mrs A am y gofal aâr driniaeth a gafodd Mrs X yn y Cartref Gofal rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2017. Nid oedd Mrs X yn gallu gwneud penderfyniadau am ei threfniadau gofal aâi thriniaeth. Cwynodd Mrs A fod y Cartref Gofal wedi methu â thrin haint wrinol a haint ar y frest a gafodd Mrs X, wedi methu â rhoi gwybod iâr teulu agos ei bod yn ddifrifol wael nes ei fod oâr farn ei bod yn mynd i farw, wedi rhoi diagnosis anghywir iddi, wedi peidio â rhoi triniaeth, bwyd a hylif iddi, wedi annog y teulu i adael iddi farw ac wedi methu â hysbysuâr gwasanaethau cymdeithasol oâr uchod.
Canfuâr ymchwiliad ei bod yn briodol iâr Cartref Gofal ddibynnu ar y diagnosis a’r cynllun triniaeth a luniwyd gan y Meddyg Teulu. Roedd y staff nyrsio wedi gwneud ymdrechion priodol i roi triniaeth yn unol â chyfarwyddiadauâr meddyg teulu ac roedd unrhyw esgeulustod yn deillio o bryderon ynghylch diogelwch. Roedd y cartref wedi cysylltuân amserol ââr teulu agos, wedi rhoi diweddariadau priodol iddynt ac wedi rhoi gwybod iâr meddyg teulu am eu pryderon. Nid oedd y Cartref Gofal wedi peidio â rhoi bwyd a hylif. Fodd bynnag, oherwydd diffyg tystiolaeth ddogfennol, ni allaiâr ymchwiliad gadarnhau a oedd faint o’r rhain roeddynt wediâi gynnig yn ddigon i ddiwallu ei hanghenion dietegol ac felly cafodd yr agwedd hon ar y gĹľyn ei chadarnhauân rhannol. Nid oedd dim tystiolaeth i awgrymu bod staff y Cartref Gofal wedi âannogâ y teulu agos i adael i Mrs X farw; yn hytrach, roeddynt wedi rhoi disgrifiad cywir a gonest oâr sefyllfa glinigol ac wedi cynnig cyngor. Nid oedd gan y Cartref Gofal rwymedigaeth gontractiol i roiâr wybodaeth ddiweddaraf iâr gwasanaethau cymdeithasol oni bai fod pryderon ynghylch diogelu.
Cytunodd y Cartref Gofal i ymddiheuro i Mrs A am y methiannau a nodwyd. Cytunodd hefyd i gynnal archwiliad ac i weithredu ar unrhyw gamau angenrheidiol mewn ymateb i ganfyddiadauâr archwiliad i sicrhau cydymffurfiad o ran cwblhau siartiau bwyd a hylifau electronig cymeradwy.
Cwynodd Mrs A am y gwasanaeth gofal sylfaenol roedd y Practis Meddyg Teulu wediâi roi i Mrs X. Yn benodol, pa mor briodol oedd yr asesiadau aâr ymchwiliadau a gynhaliwyd, y diagnosisau a wnaed aâr cynllun triniaeth a luniwyd rhwng 1 Mawrth a 3 Mawrth. Cwynodd Mrs A hefyd am y cyfathrebu ynghylch cyflwr acĂwt Mrs X, y penderfyniad i beidio ââi derbyn iâr ysbyty er mwyn rhoi gwrthfiotegau a hylifau mewnwythiennol iddi, y penderfyniad na ddylid ceisio ei dadebru pe baiân cael ataliad ar y galon (âDNACPRâ) aâr ymgynghoriad a gynhaliwyd cyn gwneud y penderfyniad hwnnw.
Canfuâr ymchwiliadau fod yr asesiadau, yr ymchwiliadau, y diagnosisau aâr cynllun triniaeth (gan gynnwys y penderfyniad i beidio â derbyn Mrs X iâr ysbyty) i gyd yn briodol. Maeân arferol i staff mewn cartrefi gofal gysylltu â pherthnasau ynghylch statws clinigol preswylwyr oni bai fod cwestiynau y maeân rhaid iâr teulu roi sylw iddynt. Roedd y meddyg teulu wedi rhoi diweddariad amserol a chywir iâr teulu ynghylch cyflwr Mrs X. Er fod y rhesymeg y tu Ă´l i roi DNACPR ar waith, o safbwynt clinigol, yn briodol, nid oedd y meddyg teulu wedi cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Galluedd Meddyliol nac â Chanllawiauâr Cyngor Meddygol Cyffredinol ar Ganiatâd ac ni ofynnwyd am farn y bobl briodol; felly, cadarnhawyd yr agwedd hon ar y gĹľyn.
Cytunodd y Practis Meddygon Teulu i ymddiheuro i Mrs A am y methiannau a nodwyd ac i roi copi oâr adroddiad iâr meddyg teulu (sydd wedi gadael y Practis Meddygon Teulu ers hynny), gan dynnu ei sylw at y methiannau aâr argymhellion. Cytunodd y Practis Meddygon Teulu y byddaiâr holl glinigwyr oedd yn gysylltiedig ââr gĹľyn yn pwyso a mesur y materion a godwyd mewn perthynas â phroses gwneud penderfyniadau DNACPR ac yn sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o’r polisĂŻau a’r canllawiau cenedlaethol diweddaraf.
Cwynodd Mrs A hefyd am y ffordd yr oedd y Cyngor wedi gweithredu. Dywedodd Mrs A nad oedd y Cyngor wedi dilyn y polisi aâr weithdrefn berthnasol pan gynhaliodd ymchwiliad Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (âPOVAâ), ac y dylai fod wedi ystyried pryderon y teulu ynghylch gofal a thriniaeth Mrs X wrth wneud penderfyniad er lles pennaf am leoliad Mrs X yn y tymor hir.
Canfuâr ymchwiliad nifer o fethiannau difrifol yn y modd y cynhaliwyd yr ymchwiliad POVA. Canfu ei bod yn rhesymol nad oedd pryderon y teulu, oedd heb eu cadarnhau, wedi cael eu hystyried fel rhan oâr penderfyniad er lles pennaf.
Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Mrs A am y methiannau a nodwyd. Cyn cwblhauâr ymchwiliad yn derfynol, roedd y Cyngor wedi rhoi tystiolaeth oâi amserlen hyfforddi ar gyfer staff syân arwain y Broses Ddiogelu (POVA gynt).