Honnwyd bod Cynghorydd (âyr Aelodâ) wedi postio fideos ar y llwyfan cyfryngau cymdeithasol, TikTok, a ddaeth ag anfri ar eu swydd fel cynghorydd a Chyngor Sir Penfro (ây Cyngorâ).
Dechreuodd yr Ombwdsmon ymchwiliad i weld a ywân bosibl bod yr Aelod wedi torri paragraff 6(1)(a) oâr Cod Ymddygiad, na chaiff aelodau ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ystyried ei fod yn dwyn anfri ar eu swydd neu eu hawdurdod.
Canfu’r ymchwiliad fod yr Aelod wedi postio cyfres o fideos, rhai ohonynt yn cynnwys synau TikTok a oedd yn cynnwys helaethion. Cafodd yr Aelod, a oedd wediâi benodi i gorff llywodraethu ysgol, ei wahardd oâr corff llywodraethu tra bod y Cyngor yn ymchwilio iâr mater. Cyfwelwyd nifer o dystion. Roedd rhai o’r farn bod y fideos yn ddi-chwaeth. Canfu ymchwiliad y Cyngor nad oedd y fideos yn effeithio ar rĂ´l yr Aelod fel llywodraethwr.
Canfuâr ymchwiliad fod yr Aelod yn gweithreduân breifat pan bostiodd y fideos. Mae cyfraith achosion perthnasol wedi sefydlu, er mwyn canfod achos o dorri’r ddarpariaeth âanfriâ, bod yn rhaid i ymddygiad aelod effeithio ar enw da eu Cyngor a/neu rĂ´l aelod etholedig a mynd y tu hwnt i effeithio ar eu henw da personol. Er y gall rhai ystyried natur y fideos yn syfrdanol, mae synau TikTok ar gael yn eang ac yn hawdd ar TikTok ac yn aml yn cael eu hatgynhyrchu’n eang gan ddefnyddwyr TikTok mewn symiau mawr. Mae TikTok yn blatfform cyfryngau cymdeithasol lle mae’n ofynnol i ddefnyddwyr fod yn 13 oed ac mae cynnwys o’r math a bostiwyd gan yr Aelod ar gael yn eang ac am ddim heb sensoriaeth. Roedd y fideos yn amlwg wedi’u bwriadu i fod yn ddigrif ac i wneud i bobl chwerthin. Nid oedd y fideos wedi’u cyfeirio at unrhyw un ac nid ydynt yn dangos unrhyw fwriad i achosi niwed neu ofid.
Canfuâr Ombwdsmon nad oedd tystiolaeth o unrhyw fethiant i gydymffurfio â Chod Ymddygiad yr awdurdod perthnasol dan sylw.