Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Uniondeb : Cyngor Sir Powys – PSOW Cymraeg

Report Date

12/02/2022

Subject

COD - Uniondeb

Case Reference Number

202104527

Outcome

COD

Derbyniodd yr Ombwdsmon gĹľyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Sir Powys (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad pan oedd yn ymddangos ei fod yn gyrru cerbyd yn ystod cyfarfod rhithwir. Adolygodd yr Ombwdsmon y recordiad clyweledol o’r cyfarfod a chael gwybodaeth gan yr Heddlu. Bu hefyd yn ystyried cyfrif a ddarparwyd gan yr Aelod. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd tystiolaeth ar gael i gefnogi’r honiad bod yr Aelod yn gyrru yn ystod y cyfarfod rhithwir a daeth i’r casgliad nad oedd tystiolaeth bod yr Aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad.