Cwynodd Mr Y, yn dilyn dau atgyfeiriad brys at Adran Wroleg y Bwrdd Iechyd gan ei feddyg teulu ym mis Mawrth 2021, nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi graddio ei atgyfeiriadau fel Brys Amheuaeth o Ganser (âUSCâ). Dywedodd ei fod wedi cysylltu â llinell apwyntiadauâr Bwrdd Iechyd a chael gwybod y byddaiân gorfod aros am flwyddyn i gael apwyntiad ag wrolegydd. Teimlai Mr Y nad oedd dewis ganddo ond chwilio am apwyntiad preifat oherwydd ei fod yn poeni am yr holl aros cyn cael apwyntiad. Yna yn Awst 2021 cafodd Mr Y ddiagnosis o ganser y prostad aâi atgyfeirioân Ă´l at y GIG am driniaeth. Yn ei gĹľyn roedd Mr Y yn gofyn i’r Bwrdd Iechyd dalu ffi ei apwyntiad ymgynghori preifat yn Ă´l ac adolygu ei weithdrefnau ar gyfer USC.
Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y camau y cytunodd y Bwrdd Iechyd iâw cymryd yng nghyswllt dau adroddiad budd cyhoeddus a gyhoeddwyd gan yr Ombwdsmon yn ddiweddar yn golygu nad oedd yn gymesur ymchwilio i bryderon Mr Y am y ffordd y deliodd y Bwrdd Iechyd ââr broses o frysbennu ei atgyfeiriadau gan ei feddyg teulu. O ran y wybodaeth a roddwyd i Mr Y am yr amser y byddaiân rhaid iddo aros am apwyntiad ag wrolegydd, roedd y Bwrdd Iechyd wedi adnabod bod angen cofnodi amserlen ar gyfer apwyntiadau ar ffurflenni brysbennu fel boâr wybodaeth ymaân glir iâr tĂŽm archebu cleifion. Pe bai hyn wedi cael ei wneud pan gafodd atgyfeiriadau meddyg teulu Mr Y eu brysbennu, gallai fod wedi tawelu ei feddwl wrth ffonioâr llinell apwyntiadau bod amserlen benodol ar gyfer y byddaiân cael apwyntiad.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd y camau canlynol i ddatrys cwyn Mr Y. Cytunodd i ymddiheuro, talu ffi apwyntiad ymgynghori preifat Mr Y yn Ă´l iddo a hysbysuâr Adran Wroleg y dylai atgyfeiriadau brysbennu gofnodi amserlen ar gyfer apwyntiadau o hynny ymlaen.