Rydym yn ceisio darparu gwasanaeth Ombwdsmon o’r radd flaenaf i Gymru.
Rydym yn croesawu adborth ar eich profiad cadarnhaol o’n gwasanaeth.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd achlysuron pan fydd achwynwyr yn anhapus â’n penderfyniadau neu’r gwasanaeth yr ydym wedi’i ddarparu.
Y Broses Adolygu Achos – pan fyddwch yn anhapus â’n penderfyniad
Gallwch ofyn am adolygiad o’n penderfyniad i beidio ag ymchwilio i’ch cwyn, neu i derfynu ymchwiliad. Gallwch hefyd ofyn am adolygiad os ydych o’r farn bod ein penderfyniadau yn dilyn ymchwiliad yn rhai diffygiol.
Ni allwn adolygu penderfyniad dim ond oherwydd eich bod yn anghytuno ag ef.
I ni ystyried eich cais adolygu, rhaid ichi fod â thystiolaeth newydd, neu raid ichi allu dangos na wnaethom ystyried tystiolaeth benodol a oedd ar gael.
Dylech gyflwyno eich cais o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl y penderfyniad rydych chi am iddo gael ei adolygu.
Mae taflen am ein Proses Adolygu Achos ar gael yma.
Y Broses Gwyno Amdanom Ni – pan fyddwch yn anhapus â’n gwasanaeth
Fel rhan o’m hymrwymiadau gwasanaeth rydym yn ceisio:
- darparu proses hygyrch, syml, effeithiol a thryloyw ar gyfer ymchwilio i gwynion am y gwasanaeth a roddwn;
- bodloni gofynion Safonau’r Gymraeg;
- ymateb yn gyflym i gwynion am y gwasanaeth a ddarparwyd gennym; ac,
- os ydym ar fai neu wedi rhoi gwasanaeth gwael, ymddiheuro a dysgu oddi wrth ein camgymeriadau.
Rydym yn awyddus i glywed eich sylwadau a’ch pryderon am y gwasanaeth a ddarparwyd gennym, gan gynnwys sylwadau neu bryderon am ein cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg.
Sut i ofyn am adolygiad achos neu roi sylwadau neu gwyno am ein gwasanaeth
I ofyn am adolygiad o’n penderfyniad neu i gwyno am ein gwasanaeth (gan gynnwys sut yr ydym yn cydymffurifo â Safonau’r Gymraeg), llenwch y ffurflen ar-lein ar waelod y dudalen hon. Byddwch yn ymwybodol y bydd y terfyn amser i gwblhau’r ffurflen ar-lein hon yn dod i ben ar ôl 2 awr.
Os yw’n well gennych, gallwch lawrlwytho fersiwn PDF o’r ffurflen y dylech ei chadw ar eich cyfrifiadur. Gallwch lenwi’r ffurflen â llaw trwy argraffu ac anfon y ffurflen wedi’i llenwi at ein cyfeiriad post, neu gallwch anfon y ffurflen wedi’i llenwi at feedback@ombwdsmon.cymru
Mae gennym hefyd fersiwn PDF Hawdd ei Ddarllen o’r ffurflen ar gael isod.
Gallwch ysgrifennu atom yn Gymraeg a byddwn yn ymateb yn Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at oedi cyn ymateb.
You can write to us in Welsh and we will reply in Welsh.Â
- FFURFLEN PDF - Sut i wneud cais am adolygu penderfyniad rydym wedi ei wneud neu wneud sylw neu gwyno am ein gwasanaeth
- POLISI - Sut i wneud cais am adolygu penderfyniad rydym wedi ei wneud neu wneud sylw neu gwyno am ein gwasanaeth
- FFURFLEN PDF - Sut i wneud sylw neu gwyno am ein gwasanaeth neu Ofyn am adolygiad o benderfyniad a wnaethom (Hawdd ei Ddarllen)